Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                     Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod yr ystyr yn gyfwerth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg yng ngeiriau agoriadol rheoliad newydd 22A(4) a fewnosodir gan reoliad 12.

Mae nifer o enghreifftiau o “resolve a/the concern” yn y Prif Reoliadau sy’n ei gwneud yn glir mai “datrys y pryder” yw’r ystyr a fwriedir pan gyfeirir at “resolution” yn y cyd-destun hwn.

Derbynnir y gellid bod wedi defnyddio “ceisio datrysiad” yn hytrach na “ceisio datrys y pryder”, ond nid yw hyn wedi ei ddefnyddio mewn deddfwriaeth flaenorol, ac ystyrir bod “ceisio datrys y pryder” yn fwy naturiol yn Gymraeg ac yn cyfleu’r ystyr a fwriedir.